Pam Te?
Does dim rhaid i chi gynnal te parti, dim ond dod â phobl ynghyd i drafod cydraddoldeb! Mae gan de parti er hynny draddodiad hir fel rhan o’r ymgyrch dros bleidleisiau cyfartal.
Yn hanesyddol, roedd partïon te yn fwrlwm o weithgaredd gwleidyddol. Roedd yn un o’r ychydig ffyrdd y gallai menywod gyfarfod heb ddynion i drafod a chynllunio. Defnyddiai mudiadau ymgyrchu blaenllaw y bleidlais bartïon te a siopau te fel elfennau canolog yn eu hymgyrchu. Roeddent yn fannau ardderchog i gynyddu ymwybyddiaeth, trafod tactegau a chodi arian.
Beth sydd yn hyn i mi?
Pan fyddwch yn cofrestru byddwn yn anfon pecyn gwesteiwr llawn nwyddau difyr am ddim atoch chi! Byddwch yn cael pethau i roi ar ben cacennau cwpan, stensil eisin, posteri, gêm bwrdd a chardiau dadl i gychwyn eich sgwrs.
Gall eich EqualiTeas fod yn hir neu fyr, cwmpasu materion sylfaenol neu fanylu.
Ymunwch â’r sgwrs
Hoffem wybod am eich EqualiTeas yn fawr! Ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio ein hashtag #EqualiTeas a dilyn @YourUKParl am y newyddion diweddaraf.
Pwy ydym ni
Mae Equaliteas yn ymgyrch gan Wasanaeth Addysg ac Ymgysylltu Senedd y DU.
Ymunwch â rhestr bostio Addysg ac Ymgysylltu am ragor o ffyrdd y gallwch ymgysylltu â Senedd y DU.
Unrhyw gwestiynau?
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am ragor o wybodaeth.