Cynnal EqualiTeas
Beth sy’n rhaid i mi wneud i gynnal EqualiTeas?
Cofrestrwch a byddwn yn anfon pecyn gwesteiwyr am ddim atoch chi yn y post. Mae’n llawn nwyddau difyr i’ch helpu i gynllunio’ch EqualiTeas.
Sut ydw i’n cynnal EqualiTeas?
Mae EqualiTeas i gyd am gacen, cwpaned, a dogn o ddadl. Mae llawer o syniadau yn eich pecyn gwesteiwyr, felly gallwch chi ei agor a bwrw iddi!
Faint o bobl sy’n gallu cymryd rhan yn fy EqualiTeas?
Cymaint ag yr hoffwch chi. Gall fod yn fawr neu’n fach!
Pryd ddylwn i gynnal fy EqualiTeas?
Gall eich EqualiTeas ddigwydd ar unrhyw adeg, ond rydym yn dathlu Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Gyfartal) 1928 ar 2 Gorffennaf.
Fydd fy AS yn dod i fy EqualiTeas?
Pan fyddwch yn cofrestru, byddwn yn gofyn i chi os hoffech i ni roi gwybod i’ch AS eich bod yn cymryd rhan. Gallai eich AS gysylltu neu ofyn os yw’n gallu dod. Ond cofiwch fod Senedd y DU yn brysur iawn felly ni fyddant yn gallu dod i bob EqualiTeas.
- Gallwch chi gysylltu â’ch AS ar unrhyw adeg
- Gallwch chi hefyd wahodd Aelod o Dŷ’r Arglwyddi
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, Cymru, neu Ogledd Iwerddon gallech chi fod yn awyddus i wahodd eich Aelod Senedd yr Alban, Aelod Cynulliad Cenedlaethol neu Aelod Cynulliad Gogledd Iwerddon. Gallwch chi hefyd gysylltu â chynghorwyr lleol a Meiri etholedig lleol.
Fydd pobl eraill yn gallu gweld manylion fy nigwyddiad EqualiTeas?
Na, nid yw manylion yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.
Oes terfyn amser ar gyfer cofrestru?
Na, gallwch chi gofrestru ar unrhyw adeg. Ond dim ond 2000 pecyn am ddim sydd gennym ni a chyn gynted â’u bod wedi mynd, dyna ni!
Y Pecyn Gwesteiwyr
Beth sydd yn fy mhecyn gwesteiwyr?
Byddwch chi’n cael addurniadau i’w rhoi ar ben cacennau cwpan, stensil eisin, posteri, gêm bwrdd, a chardiau dadl i gychwyn eich sgwrs.
Pryd fyddaf i’n derbyn fy mhecyn gwesteiwyr?
Ar ôl i chi gofrestru byddwn ni’n postio’r pecyn gwesteiwyr allan atoch chi. Cofiwch ddarparu cyfeiriad llawn a chod post er mwyn i ni wybod ble i’w anfon.
Byddwn yn dechrau anfon pecynnau gwesteiwyr allan yn y gwanwyn.
Faint mae’n gostio?
Mae am ddim. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw cofrestru!
Ga i fwy nac un pecyn gwesteiwyr?
Cewch, bydd angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob pecyn gwesteiwyr sydd ei angen arnoch chi.
Allwch chi anfon eitemau ychwanegol o’r pecyn gwesteiwyr?
Nid yw’n bosibl i anfon eitemau unigol o’r pecynnau gwesteiwyr allan, ond gallwch chi gofrestru am becynnau gwesteiwyr ychwanegol i dderbyn eitemau ychwanegol.
Ar ôl EqualiTeas
Ydw i’n cael tystysgrif neu fathodyn?
Byddwch chi’n gallu lawrlwytho eich tystysgrifau cyn gynted â’ch bod wedi cwblhau arolwg adborth. Byddwn yn e-bostio’r arolwg atoch chi ar ôl 2 Gorffennaf. Ni fydd bathodynnau ar gael eleni.